Casey Breese
Mae Clwb Pêl-droed Caersws wedi cael dedfryd amodol o 12 mis ar ôl pledio’n euog i dorri amodau iechyd a diogelwch.

Cafodd  Casey Breese, 12 oed,  ei daro gan bostyn gôl wrth iddo chwarae gyda’i ffrindiau ar gae’r clwb ym Mhowys ym mis Gorffennaf 2011.

Fe aed a’r bachgen mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Brenhinol Amwythig, ond  bu farw o’i anafiadau.

Mewn achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, fe bleidiodd aelodau o bwyllgor y clwb yn euog – a hynny ar ôl pleidion ddieuog mewn gwrandawiad ym mis Ionawr eleni.

Ar ddechrau’r flwyddyn, fe glywodd y llys bod y clwb wedi ei gyhuddo o fethu a sicrhau diogelwch neu gymryd camau i sicrhau bod pyst gol a gafodd eu darparu ar gyfer y clwb yn ddiogel ac nad oedd perygl o achosi anaf.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry ei fod wedi penderfynu peidio rhoi dirwy sylweddol i’r  clwb ar ôl clywed y gallai hynny olygu bod y clwb yn dod i ben.