Mae’r Aelod Seneddol David Ward wedi ymddiheuro am gyhoeddi neges ar wefan trydar oedd yn awgrymu y byddai’n barod i danio rocedi o Gaza at Israel.

Roedd wedi dweud ar ei gyfrif personol: “Y cwestiwn mawr yw – os fyswn i’n byw yn Gaza a fuaswn i’n tanio roced? – mae’n debygol y byddwn i.”

Wrth i’r gwrthdaro gwaedlyd yn Gaza barhau, cafodd ei gyhuddo o ysgogi trais ac o godi cywilydd ar Dy’r Cyffredin.

Mewn datganiad, fe ddywedodd David Ward, AS y Democratiaid Rhyddfrydol dros ddwyrain Bradford, nad oedd wedi bwriadu ymddangos fel ei fod yn cefnogi ymosodiadau Hamas gan ddweud: “Os wnes i roi argraff wahanol, dw i’n ymddiheuro.”

Camau

Daw’r ymddiheuriad ar ôl i Fwrdd o Ddirprwyon yr Iddewon Prydeinig alw ar arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, i gymryd camau disgyblu yn erbyn David Ward.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn “condemnio’r sylwadau yn llwyr” ac nad ydyn nhw’n cynrychioli safbwyntiau’r blaid.

Fe fydd David Ward yn cael ei alw o flaen prif chwip y blaid, Don Foster, er mwyn penderfynu os fydd camau disgyblu yn cael eu cymryd yn ei erbyn.