Mae dwy awyren filwrol o’r Iseldiroedd sy’n cludo cyrff 40 o’r rhai fu farw ar awyren Malaysia Airlines, wedi cyrraedd Eindhoven.
Roedd yr awyren yn cludo cyrff rhai o’r 298 fu farw pan gafodd awyren Malaysia Airlines ei tharo gan daflegryn yn nwyrain yr Wcráin ddydd Iau diwethaf.
Mae’r Iseldiroedd wedi cyhoeddi diwrnod o alaru yno – roedd 193 o’r teithwyr yn dod o’r wlad.