David Cameron yn y Sioe Frenhinol heddiw
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu ymrwymiad gan Brif Weinidog Prydain, David Cameron, i annog y sector cyhoeddus i brynu bwyd a chynnyrch lleol.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ac mae’n rhan o gynllun gwerth £400 miliwn ar gyfer ffermio ym Mhrydain, a fydd yn gweld y Llywodraeth yn prynu cynnyrch lleol o 2017 ymlaen.

Fe ddaw ar ôl i ffermwyr gynnal protest y tu allan i stondin Tesco ar y maes y bore ma – yn erbyn penderfyniad yr archfarchnad i hybu cig oen o Seland Newydd yn hytrach na chig o Gymru.

Fe gyrhaeddodd y Prif Weinidog faes y Sioe mewn hofrennydd y bore ‘ma.

Mae aelodau o’i gabinet newydd – Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, a’r Ysgrifennydd Amgylcheddol Liz Truss – hefyd ar y maes.

Buddion

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones:

“Rydym yn deall mai cynllun o fewn y Llywodraeth yw hwn, ond mae’n siŵr o ddod a buddion i ffermwyr ar draws Prydain. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn annog cyrff cyhoeddus i ddilyn yr esiampl, gan gynnwys y cyrff sydd ddim yn cael eu rhedeg gan y Llywodraeth.

“Mae’r FUW wedi bod yn galw am ymrwymiad fel hyn ers i mi ymuno a’r undeb ac rydym yn llongyfarch Mr Cameron am y cyhoeddiad.

“Mae hi o ddiddordeb i ni gyd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn defnyddio bwyd lleol a thymhorol i sicrhau bod yr economi yn ffynnu.”