Andrew RT Davies
Mae pedwar Aelod Cynulliad gafodd eu diswyddo o gabinet cysgodol y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi cael eu hail-benodi.
Collodd Nick Ramsay, Antoinette Sandbach, Mohammad Asghar a Janet Finch-Saunders eu cyfrifoldebau ar ôl penderfynu pleidleisio’n groes i weddill y blaid yn ystod pleidlais ar ddatganoli’r dreth incwm i Gymru.
Roedd Nick Ramsay yn un o’r enwau mwyaf blaenllaw yng nghabinet yr wrthblaid, wedi iddo ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid pan gafodd Andrew RT Davies ei ethol.
Ar y pryd, roedd Antoinette Sandbach wedi cyhuddo’r arweinydd o rwygo’r blaid.
Daeth awgrym fod Andrew RT Davies wedi penderfynu cynnig eu swyddi i’r pedwar yn sgil penderfyniad Prif Weinidog Prydain, David Cameron i ad-drefnu ei Gabinet yn San Steffan.
Ond mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, David Jones, a gollodd ei swydd yr wythnos hon, wedi wfftio’r awgrym.
Yn y cabinet newydd, mae Nick Ramsay wedi derbyn cyfrifoldeb am gyllid, bydd Antoinette Sandbach yn gyfrifol am yr amgylchedd, bydd Janet Finch-Saunders yn llefarydd llywodraeth leol ac fe fydd Mohammad Asghar yn gyfrifol am gydraddoldeb a chwaraeon.