John Bercow
Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow wedi cael ei gyhuddo gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Michael Fabricant o regi at glerc yn y Tŷ.

Gwnaeth Fabricant yr honiad wrth roi teyrnged i Syr Robert Rogers, y clerc sydd wedi penderfynu ymddeol yn gynnar ar ôl 42 o flynyddoedd yn y swydd.

Dywedodd Fabricant fod Bercow wedi dweud “F*** off” wrth y clerc “o leiaf unwaith” o flaen pobol eraill.

Wrth roi teyrnged, dywedodd Fabricant: “Dydyn ni ddim yn gwybod pam ei fod e wedi penderfynu ymddeol yn gynnar – ond dydy ei berthynas waith y tu ôl i ddrysau caeedig ddim wastad wedi bod yn hawdd, ac fel mae pobol eraill sy’n gwybod eisoes wedi awgrymu, ac er bod Syr Robert wedi astudio Eingl Sacsoneg yn Rhydychen, ac er gwaetha’r ffaith i chi, Mr Llefarydd, ddweud wrtho sawl gwaith o flaen eraill i “f*** off”, dydw i ddim yn credu y byddai hynny wedi’i annog i aros.”

Ymatebodd Bercow trwy ddweud: “Gwna i anwybyddu’r sylw diwethaf hwnnw a oedd yn anghywir.”

Mae cryn ddadlau wedi bod yn ddiweddar am fod Bercow wedi penderfynu cyflogi pobol i ddod o hyd i olynydd i’r clerc, swydd sydd fel arfer yn cael ei llenwi’n fewnol.