Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones
Fe fydd cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, yn trafod yr heriau sy’n wynebu’r sianel mewn araith yng nghynhadledd Cyfrwng ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos nesaf.
Bydd y gynhadledd hefyd yn clywed gan  academyddion o brifysgolion ledled Cymru a nifer o unigolion o’r diwydiannau creadigol a fydd yn trafod dyfodol y cyfryngau yng Nghymru.

Dywedodd Huw Jones y bydd “yn trafod newidiadau yn nemograffeg siaradwyr Cymraeg, a’r prif heriau sy’n wynebu teledu yn yr iaith Gymraeg yn sgil rheiny”.

Ymysg pynciau eraill fydd, “Sut mae adnabod blaenoriaethau gwylwyr yn yr oes aml-lwyfan, a sut mae ymateb i awgrymiadau am strwythurau newydd ar gyfer darlledu yng Nghymru?”

Enwau mawr

Fe fydd dau enw byd-enwog o fyd ffilmiau dogfen hefyd yn cymryd rhan yn y gynhadledd.

Bydd Gideon Koppel, artist a chyfarwyddwr Sleep Furiously, a chynhyrchydd The Act of Killing, Joram ten Brink, yn trafod eu gwaith.

Fe fydd Yr Athro Mike Pearson, awdur Marking Time: Performance, Archaeology and the City, hefyd yn trafod ei waith ar berfformiad ac archeoleg.

Cynhelir Cynhadledd Cyfrwng 2014 ym Mhrifysgol Bangor ar 24-25 Gorffennaf.

Bydd blog byw ar Golwg360 a galwch ddilyn Cyfrwng at Twitter: https://twitter.com/cyfrwng