Bydd mwy na miliwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus yn streicio heddiw yn sgil ffrae tros gyflogau, pensiynau, swyddi a thoriadau.
Ymhlith y rhai fydd yn streicio mae gweithwyr gofal cartref, casglwyr sbwriel, swyddogion diogelwch y ffyrdd, gofalwyr a glanhawyr, athrawon a diffoddwyr tân.
Fe fydd tua 70,000 yn streicio yng Nghymru gan olygu y bydd nifer fawr o ysgolion yng Nghymru ar gau’n llwyr neu’n rhannol yn sgil y streic.
Bydd llinellau piced yn cael eu ffurfio y tu allan i lysoedd barn, swyddfeydd cynghorau, canolfannau gwaith, gorsafoedd tân a San Steffan.
Dywed undeb y TUC fod gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn ennill £2,000 yn llai o dan y Llywodraeth bresennol ar gyfartaledd, tra bod hanner miliwn o weithwyr cynghorau’n ennill cyflog sy’n is na chyflog byw.
‘Digon yw digon’
Mae Unsain yn galw am derfyn ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus, gan ddweud y byddai’n creu miloedd o swyddi ac yn rhoi hwb o ychydig filiynau o bunnoedd i’r economi.
Byddan nhw’n ymgasglu y tu allan i San Steffan ar ddechrau’r streic sy’n para 24 awr.
Dywedodd llefarydd ar ran y TUC mai “digon yw digon”.
Mae’r gwasanaeth tân wedi rhybuddio pobol i fod yn fwy gwyliadwrus nag arfer heddiw yn sgil y streic rhwng 10yb a 7yh.
Mae disgwyl i’r streic effeithio’n sylweddol ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd.
Dyma fydd y streic fwyaf dros gyflogau ers i’r Llywodraeth Glymblaid ddod i rym.
Yn sgil y streic ddiweddaraf, mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi awgrymu ei fod yn awyddus i newid y gyfraith fel bod rhaid i nifer penodol o weithwyr gymryd rhan mewn pleidlais i benderfynu a ddylid streicio.
Pe na bai digon yn pleidleisio, yna fe fyddai streicio’n anghyfreithlon.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod y blaid yn cefnogi’r gweithwyr.
Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’r cannoedd o filoedd o staff teyrngar ac ymroddedig yn y sector cyhoeddus wedi eu gwneud yn fwganod a’u beio am argyfwng ariannol nad oedden nhw’n gyfrifol amdano.
“Mae gan Blaid Cymru record falch o sefyll dros y sector cyhoeddus a’i gweithwyr. Yr ydym yn cefnogi ac yn rhoi gwerth ar bawb sydd yn gweithredu yn ddiwydiannol i gael eu lleisiau wedi eu clywed.”