Yn ôl adroddiadau fe fydd deddfwriaeth frys yn cael ei rhuthro drwy’r Senedd er mwyn caniatáu i’r heddlu ac MI5 i archwilio data ffonau symudol a’r rhyngrwyd.
O dan y cynlluniau a fydd yn cael eu cyhoeddi heddiw, fe fydd yn ofynnol i gwmnïau ffon a’r rhyngrwyd storio data am 12 mis, yn ôl adroddiadau yn The Sun.
Mae’n debyg bod yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi dod i gytundeb gyda’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, a oedd wedi gwrthwynebu ymdrechion i basio deddfwriaeth i storio’r wybodaeth.