Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn barod i ystyried newidiadau i’r modd  y mae’r Cod Ymddygiad Gweinidogion yn cael ei weithredu yn dilyn trafodaeth yn y Senedd heno.

Roedd  y gwrthbleidiau wedi gwneud cynnig i benodi Dyfarnwr Annibynnol i ddyfaru ar gwynion am ymddygiad gweinidogion.

Ond dywedodd y Prif Weinidog bod y system bresennol yn gweithio – er ei fod yn barod i ystyried newidiadau.

Parod i edrych

“O ran penodi rhywun annibynnol byddwn i’n awgrymu bod yr Ysgrifennydd Parhaol yn gwneud hynny,” meddai Carwyn Jones.

“Beth fedra i ddweud yw y gwnaf edrych yn fanylach ar y system a lle y gall fod yn ddefnyddiol.

“Rwyf yn barod i edrych ar system sydd yn mynd yn bellach na hynny ond mae angen edrych ar hynny. Mae yna sgôp i edrych ar y system bresennol ac rwy’n agored i hynny ond heb eglurdeb mae hi’n anodd iawn.”

Mae’r gwrthbleidiau yn dweud bod angen diwygio’r system ar ôl i’r  Cyn Weinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies, dorri’r Cod y Gweinidogion yr wythnos ddiwethaf  ar ôl ei  ymyrraeth yn y cynlluniau ar gyfer trac rasio yn ei etholaeth ym Mlaenau Gwent.

‘Angen unigolyn annibynnol’

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies: “Mi wnaeth y Gweinidog (Alun Davies) dorri’r Cod ac mae’r broses a gafodd ei defnyddio’r tro yma yn cael ei chroesawu. Ond does yna ddim byd yn dweud yn y Cod y dylai’r Prif Weinidog gyfeirio pob digwyddiad o’r fath at yr Ysgrifennydd Parhaol.

“Ry’n ni’n croesawu’r annibyniaeth honno ond does yna ddim byd yn dweud na fydd hynny’n digwydd eto a ry’n ni’n credu bod angen fformiwleiddio hynny pan mae yna gred bod y cod wedi ei dorri. Ry’n ni’n credu bod angen unigolyn annibynnol, ym mhob achos, i gamu mewn ac adrodd yn ol i’r Cynulliad a’r Prif Weinidog.

“Mae ein cynnig ni’n glir bod angen creu canllaw clir sy’n gwahaniaethu rhwng rôl Aelod Cynulliad ac aelod o’r Llywodraeth.”

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams: “Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi galw am blismona annibynnol o’r Cod ers tro ond mae’r Prif Weinidog wastad wedi gwrthod hynny.

“Dw i’n meddwl ei fod e’n hawl sylfaenol i Brif Weinidog ddewis a diswyddo ei Gabinet ond dwi ddim yn credu y dylai ef benderfynu os yw rhywun wedi torri’r Cod.”

Ategodd Simon Thomas o Blaid Cymru hefyd nad oedd yn credu mai’r Ysgrifennydd Parhaol oedd y person i benderfynu ar y materion hyn.

Cafodd cynnig y gwrthbleidiau i benodi dyfarnwr annibynnol ei wrthod o 25 pleidlais i 24.