Cynlluniau ar gyfer carchar Wrecsam
Mae’r cwmni sydd wedi ennill cytundeb i adeiladu’r carchar cyntaf o’i fath yn y DU yn Wrecsam yn chwilio am bartneriaid.
Mae Lend Lease wedi gwahodd ceisiadau ar gyfer y tendr er mwyn cael dechrau ar y gwaith.
Fe fydd digwyddiad arbennig i gwmnïau sydd wedi mynegi diddordeb ar Orffennaf 16 a 17.
Mae gofyn bod yr holl gwmnïau sy’n gwneud cais wedi’u hachredu naill ai gan Building Confidence neu unrhyw ddarparwr Cynlluniau Diogelwch ym Maes Caffael.
Bydd y carchar yn cael ei godi ar safle 66 erw, gyda lle i 2,000 o garcharorion categori C.
Mae disgwyl i’r gwaith o adeiladu’r carchar ddechrau fis nesaf, ac fe ddylai gael ei gwblhau
erbyn 2017.
‘Manteision i economi’r gogledd’
Wrth gyhoeddi mai Lend Lease oedd wedi ennill y cytundeb ym mis Mai, dywedodd Llywodraeth Prydain fod y cytundeb yn cynnig manteision sylweddol i economi gogledd Cymru.
Y gost o adeiladu’r carchar yw £212 miliwn, sy’n llai na’r amcangyfrif gwreiddiol o £250 miliwn.
Pan gyflwynodd Lend Lease eu cais ar gyfer y prosiect, roedden nhw’n disgwyl gwario £50 miliwn drwy gytundebau allanol gyda busnesau bach a chanolig, gyda £30 miliwn yn cael ei wario gyda busnesau lleol.
Roedden nhw hefyd yn disgwyl i 50% o’r gweithlu fod yn weithwyr o’r ardal leol.