Huw Irranca-Davies
Fe ddylai Llywodraeth San Steffan ymddiheuro i bobol Cymru am “ddirmygu’r system ddatganoli”, yn dilyn achos yn y Goruchaf Lys am gyflogau gweithwyr byd amaeth.
Dyna farn Aelod Seneddol Bro Ogwr, Huw Irranca-Davies, ar ôl i’r Twrne Cyffredinol Dominic Grieve ddadlau nad oedd gan Gymru’r pŵer i osod isafswm cyflog ac amodau gwaith i weithwyr y sector amaethyddol.
Ond cafwyd bod ei safbwynt yn anghywir, ar ôl i’r Goruchaf Lys ddweud mai’r Cynulliad ddylai fod a’r gair olaf am gyflogau ac amodau gwaith i weithwyr amaethyddol.
“Mae Llywodraeth San Steffan wedi gwastraffu arian cyhoeddus ac wedi dirmygu’r system ddatganoli trwy herio ewyllys bobol Cymru yr holl ffordd i’r Goruchaf Lys,” meddai Huw Irranca-Davies.
“Fe ddylai’r Llywodraeth Glymblaid ymddiheuro i bobol Cymru.”
‘Cywilyddus’
Ychwanegodd yr AS ei fod yn credu bod penderfyniad y Goruchaf Lys wedi codi cywilydd ar Ysgrifennydd Cymru, David Jones, a’r Twrne Cyffredinol, Dominic Grieve:
“Mae’r canlyniad yn gywilyddus i Ysgrifennydd Cymru a’r Twrne Cyffredinol sydd wedi mynd ati’n fwriadol i geisio rhwystro bwriadau Llywodraeth Cymru.
“Mae’r Llywodraeth wedi methu dweud wrtha’ i faint o arian cyhoeddus sydd wedi cael ei wastraffu ar y chwalfa yma, ond mae gan bobol hawl i wybod pan mae eu harian nhw yn cael ei daflu i ffwrdd.
“Rwy’n falch y bydd Llywodraeth Cymru rŵan yn gallu parhau gyda’u cynlluniau ar gyfer y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol.
“Ond, yn anffodus, nid yw ffermwyr yn Lloegr yn cael eu gwarchod yn yr un ffordd. Mae’n siarad cyfrolau am flaenoriaethau Llywodraeth Prydain.”