Mark Drakeford
Mae archwiliadau dirybudd i brofi safonau gofal ar gyfer cleifion hŷn mewn ysbytai cyffredinol wedi cychwyn ledled Cymru.
Daw hyn mewn ymateb i adolygiad annibynnol o’r gofal ar gyfer cleifion hŷn yn ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd yr hap archwiliadau’n canolbwyntio ar feddyginiaeth, hydradu, tawelyddu dros nos a gofal ymataliaeth.
Yn eu hadroddiad annibynnol Ymddiried mewn Gofal, amlygodd yr Athro June Andrews a Mark Butler nifer o bryderon difrifol am ansawdd gofal a diogelwch cleifion mewn rhai rhannau o rai wardiau mewn dau ysbyty, sy’n cael eu rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Fe’i comisiynwyd gan y Gweinidog Oechyd Mark Drakeford yn dilyn pryderon a godwyd am ofal cleifion yn yr ysbytai ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot. Gwnaeth yr adroddiad 18 o argymhellion i’r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru, a dderbyniwyd yn llawn.
Camau brys
Meddai Mark Drakeford: “Ers cyhoeddi’r adroddiad hwn, rydym wedi cymryd camau brys i sicrhau bod y safonau rydym yn eu disgwyl ar draws ein gwasanaeth iechyd yn cael eu bodloni. Fydd safonau gofal annerbyniol ddim yn cael eu goddef mewn unrhyw ysbyty yng Nghymru.
“Bellach mae hap archwiliadau dirybudd yn cael eu cynnal mewn pob ysbyty cyffredinol yng Nghymru gan dîm o unigolion profiadol a fydd yn adrodd yn uniongyrchol i fi. Mae pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth y GIG hefyd wedi cyhoeddi sut maen nhw’n bwriadu ymateb i’r canfyddiadau.
“Bydda’ i’n rhoi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd am ganlyniadau’r hap archwiliadau hyn ac yn sicrhau bod y canfyddiadau’n cael eu cyhoeddi.”