Ar drothwy streic arall gan ddynion tân yng Nghymru yfory dros bensiynau yfory, mae Llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu gadael i ddiffoddwyr tân ymddeol yn 55 oed, a hynny dan amodau eu pensiynau presennol.
Mae diffoddwyr tân wedi bod yn galw am gytundeb o’r fath ers i’r llywodraeth gyhoeddi amodau pensiwn newydd, cam a fyddai’n golygu bod rhai yn colli 47% o’u pensiynau.
Dadl y Llywodraeth yw bod diffoddwyr tân yn cael y fargen orau o gymharu â holl weithwyr eraill y sector cyhoeddus, ac na fydd y newidiadau’n effeithio dim ar dri chwarter aelodau’r undeb.
Mae sawl streic wedi ei chynnal dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r gwasanaeth tân yng Nghymru a Lloegr yn bwriadu cerdded allan o’u gwaith am y pedwerydd tro ar ddeg yfory. Mae disgwyl i’r streicio gychwyn am 10 o’r gloch y bore a phara tan bump y prynhawn.
‘Cynnig synhwyrol’
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Frigâd Dan, Matt Wrack, fod y cynnig gan Lywodraeth Gogledd Iwerddon yn profi fod eu galwad yn “synhwyrol ac yn fforddiadwy”.
“Nid yw’r cynnig yn berffaith ond mae’n dangos bod posib osgoi gwrthdaro pan mae dwy ochr yn fodlon siarad.”
“Mae’n amser i weddill Prydain gymryd sylw o’r gwelliant sydd wedi ei wneud yng Ngogledd Iwerddon a chytuno ar gynllun pensiwn mwy teg na’r hyn sy’n cael ei gynnig.”