Fe ddaeth yn glir fod pedwar o bobol wedi marw mewn damwain yng nghanolbarth Cymru.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod  dau ddyn a dwy fenyw wedi cael eu lladd yn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A44 rhwng Llangurig a Phonterwyd y prynhawn yma.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng tancer olew, fan a char ychydig cyn tri y prynhawn.

Fe fu’r ffordd ar gau am oriau wrth i’r gwasanaethau ambiwlans, yr ambiwlans awyr a’r gwasanaeth tân fynd i helpu.

Mae adroddiadau hefyd fod plentyn deunaw mis wedi cael ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd gydag anafiadau difrifol.

Mae teulu’r rhai fu farw wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.