Byddai peidio gorfodi siopau bach i godi tâl o 5c am fag plastig yn Lloegr yn tanseilio ymdrechion i leihau’r defnydd o’r bagiau, yn ôl Aelodau Seneddol.
Wrth gyfeirio at lwyddiant y cynllun o godi tâl o 5c am fagiau plastig yng Nghymru, dywedodd Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol (EAC) fod Llywodraeth Prydain wedi anwybyddu galwadau i gynnwys pob siop yn y cynllun yn Lloegr.
Roedd y Llywodraeth wedi bwriadu eithrio bagiau bioddiraddadwy o’r cynllun hefyd, ond maen nhw wedi cyhoeddi na fydd hynny’n digwydd bellach.
Ond mae gweinidogion wedi dyfalbarhau hefo’r cynlluniau i beidio gorfodi siopau bach i godi tâl am fagiau plastig, er mwyn “lleihau’r pwysau ar fusnesau newydd”.
‘Dewis byrdymor’
Dywedodd cadeirydd yr EAC, Joan Walley: “Er gwaethaf argymhellion y pwyllgor, a galwadau gan rai busnesau bach eu hunain, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu bwrw mlaen a’u cynlluniau.
“Mae’r bwriad i gynnwys dim ond siopau mawr yn y cynllun yn un byrdymor iawn ond rwy’n croesawu’r penderfyniad i godi tal am fagiau bioddiraddadwy.”
Mae siopwyr wedi bod yn talu 5c am fagiau plastig yng Nghymru ers 2011, ac mae Gogledd Iwerddon a’r Alban hefyd wedi dilyn ei hesiampl.