Meirion Prys Jones
Mae cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones wedi dweud bod yr adroddiad drafft ar yr iaith Gymraeg a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw’n “siomedig”.

Daeth cyhoeddiad heddiw gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod y Llywodraeth yn neilltuo £1.6 miliwn i’r Gymraeg dros y ddwy flynedd nesaf.

Ond yn ôl Meirion Prys Jones, mae’r ddogfen yn “eitha gwan” ac yn cynnig “dadansoddiad arwynebol” o’r sefyllfa.

Dywedodd wrth Golwg360: “Mae lot fawr o ragymadroddi a diffyg nodi beth fydd y gweithredu.

“Dwi’n siomedig. O ddarllen y ddogfen, o’i chymharu â dogfennau eraill, mae’n eitha gwan ac yn ddadansoddiad arwynebol.

“Ond mi ydw i’n croesawu’r sylwadau am yr iaith a’r economi  ond mae’r swm yn dal yn eitha bychan.

“Mae faint o arian sy’n cael ei wario’n gymharol fach.”

Yn ogystal, meddai, byddai wedi hoffi gweld “buddsoddiad newydd yn lle arbedion.

“Roedd yna addewid o syniadau ffres, ond dydw i ddim yn eu gweld nhw.”

‘Annealladwy’

Prif wendid y ddogfen, yn ôl Meirion Prys Jones, yw fod y sylwadau am “newid ymddygiad ieithyddol yn ymylu ar fod yn annealladwy”.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio theori newydd nad yw’n addas ar gyfer y Gymraeg.

“Yr hyn maen nhw wedi ceisio’i wneud yw defnyddio’r ‘nudge theory’ sydd heb ei brofi yng nghyd-destun hyrwyddo iaith.”

‘Prin iawn oedd y cig’

Ar ddiwedd gwylnos 36 awr i brotestio yn erbyn diffyg gweithgarwch Llywodraeth Cymru tros y Gymraeg, dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar mai “prin iawn oedd y cig” yng nghyhoeddiad Carwyn Jones heddiw.

Dywedodd: “Prin iawn oedd y cig oedd wedi ei addo yn natganiad Carwyn Jones heddiw.

“Mae’r Llywodraeth wedi bod yn addo datganiad ers wythnosau ac mae blwyddyn a hanner ers canlyniadau’r Cyfrifiad.

“Yr oll sydd gyda ni fan hyn yw drafft o bolisi – pryd fyddwn ni’n gweld gweithredu?”

‘Swm pitw’

Yn ôl Robin Farrar, mae elfennau calonogol yn y ddogfen ond mae nifer o wendidau o hyd.

“Yn ôl yr adroddiad bydd y Gymraeg wrth wraidd y diffiniad o ddatblygu cynaliadwy ym Mil Cenedlaethau’r Dyfodol – mae hynny’n galonogol ond does dim symudiad i wneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol o fewn y system gynllunio.

“Mae oedi a diffyg uchelgais ym maes addysg o hyd, rydyn ni’n galw am addysg Gymraeg i bawb – dim nod clir, dim byd am y cyfnod sylfaen.”

Wrth ategu sylwadau Meirion Prys Jones, dywedodd fod y swm o £1.2 miliwn yn un “pitw”.

“Mae’n amlwg bod y Llywodraeth yn deall pa feysydd sydd angen mynd i’r afael â nhw ond eto dydyn nhw ddim yn mynd ati o ddifrif – dydy’r camau sylweddol, eofn a blaengar ddim yma o hyd, a does dim manylder.”

Bydd y Gymdeithas yn cynnal cynhadledd ar Orffennaf 4 i drafod cynnwys yr adroddiad.

‘Angen diwygio’r system gynllunio’

Mewn ymateb i’r datganiad, dywedodd Aled Roberts AC, llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros y Gymraeg: “Mae ymgyrchwyr iaith yn dweud yn gyson bod angen inni ddiwygio’r system gynllunio i ddiogelu’r iaith, ond heddiw ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i’r angen i gynghorau lleol adolygu eu cynlluniau datblygu er mwyn ystyried yr iaith Gymraeg.

“Mae’r ffaith na fydd nifer o gynghorau lleol yn gwneud hyn am nifer o flynyddoedd yn gwastraffu’r cyfle i ffurfio cymunedau Cymraeg cynaliadwy yn yr ardaloedd hynny.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru dal heb gyhoeddi dau gam o’i safonau iaith. Mae adroddiad Comisiynydd y Gymraeg wythnos diwethaf yn dangos angen clir i wella gofal iechyd cyfrwng Cymraeg, a dylai bobl Cymru gael y cyfle i ddelio â chwmnïau cyfleustodau a sefydliadau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. Nes bod safonau clir yn eu lle, ni fyddwn yn agosáu at gynnal y Gymraeg fel iaith fyw.”

‘Ail-ddosbarthu arian’

Dywedodd mudiad iaith Dyfodol eu bod yn cytuno â’r pwyslais ar gryfhau’r Gymraeg yn gymunedol ac yn yr economi.

Ond mae Dyfodol yn “siomedig” nad oes son yn natganiad Carwyn Jones am dargedau nac ychwaith am gynnwys y Gymraeg ar wyneb y Bil Cynllunio arfaethedig.

Dywedodd y Prif Weinidog bod £1.6 miliwn ychwanegol i’w wario ar y Gymraeg dros y ddwy flynedd nesaf ond mae Dyfodol i’r Iaith yn siomedig nad yw’r arian yma yn arian newydd. “Ail-ddosbarthu arian” o gyllideb Cymraeg i Oedolion sy’n digwydd mewn gwirionedd, meddai Dyfodol.

Dywedodd Cadeirydd Dyfodol, Heini Gruffudd, “Rydym yn cytuno a Carwyn Jones bod angen cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Ond credwn bod angen rhaglen gynhwysfawr i annog pobl i wneud hynny ac i godi hyder siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith.”

Dywed Dyfodol y bydd yn cyflwyno ymateb cynhwysfawr i ddatganiad y Prif  Weinidog yn ystod yr wythnosau nesaf.

‘Cam pwysig ymlaen’ medd Mentrau Iaith Cymru

Mae Mentrau Iaith Cymru wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £1.2 miliwn i’r Gymraeg dros y ddwy flynedd nesaf.

Daeth cadarnhad y bydd y Mentrau Iaith yn derbyn £750,000 o’r swm.

Maen nhw’n dweud y bydd yr arian ychwanegol yn “galonogol” ac yn gam pwysig “tuag at gynyddu’r buddsoddiad yn y Gymraeg dros y tymor hir”.

Cyfeiriodd Carwyn Jones yn ei gyhoeddiad at waith “hollbwysig” y Mentrau Iaith yn y gymuned.

Dywedodd llefarydd ar ran Mentrau Iaith Cymru: “Rydyn ni’n croesawu’r hyn a ddywedwyd gan y Prif Weinidog heddiw.

“Mae ei sylwadau yn cadarnhau bod y Mentrau Iaith yn parhau i fod yn bartneriaid allweddol y Llywodraeth.

“Cytunwn hefyd â’r Prif Weinidog fod y Gymraeg yn wynebu heriau difrifol a niferus sy’n ymwneud â phob agwedd ar fywyd cymunedol, ac mae angen i’r gefnogaeth a’r buddsoddiad yn y Gymraeg barhau a thyfu dros y tymor hir er mwyn cryfhau seiliau’r iaith yn ein cymunedau.”

Gweledigaeth

Ymhlith yr adroddiadau blaenorol ar waith y Mentrau Iaith yn ystod y deunaw mis diwethaf mae un a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a’i gyhoeddi ym mis Mawrth eleni.

Mae’r adroddiad yn amlinellu gweledigaeth y Mentrau Iaith a’u dulliau o ddatblygu a chryfhau er mwyn “hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gymunedol”.

Maen nhw’n dweud bod angen £4.8 miliwn arnyn nhw er mwyn cyflawni eu nod o fewn y tair blynedd nesaf.

Ychwanegodd llefarydd y Mentrau Iaith: “Rydym yn ystyried y datganiadau a wnaed gan y Prif Weinidog heddiw – gan gynnwys datganiad o gyllid ychwanegol o £750,000 i’r Mentrau Iaith dros y ddwy flynedd nesaf – fel camau cyntaf holl bwysig y mae angen i’r Llywodraeth eu cymryd tuag at weithredu’n gadarn er budd y Gymraeg ac mae’r Mentrau eisiau parhau i chwarae rhan ganolig yn y broses o ddatblygu seiliau cryfach i’r Gymraeg yn y dyfodol.”