Ysbyty Athrofaol Caerdydd
Mae pobol wedi cael dychwelyd i ddwy ward yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd erbyn hyn, ar ôl gorfod gadael oherwydd pryder fod nwy yn gollwng yno.
Yn ôl adroddiadau, roedd peipen nwy wedi torri ac fe fu’n rhaid gwagio’r uned famolaeth a’r clinig cyn-enedigol, sydd ar lawr gwaelod yr adeilad yn y brifddinas.
Bu staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cydweithio gyda’r awdurdodau ond mae mamau a’u babis bellach wedi cael dychwelyd yn ôl i’r adeilad ers tua 1:30 y prynhawn ‘ma.