Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae llai na hanner y bobl yng Nghymru yn gwybod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd.
Dyna un o ganfyddiadau arolwg newydd a gomisiynwyd gan BBC Cymru i nodi 15 mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999.
Dywedodd 48% o’r rhai a holwyd eu bod nhw’n gwybod mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, gyda 43% yn meddwl mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol.
Ond roedd gwell dealltwriaeth o addysg gyda 61% yn dweud yn gywir mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol a 31% yn credu mai Llywodraeth Prydain oedd a’r cyfrifoldeb.
Traean yn gweld gwelliant
Ar y cyfan, canfu’r arolwg mai dim ond 34% o bobl sy’n teimlo bod datganoli wedi arwain at welliant yn y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu tra bod 46% yn meddwl nad yw’r Cynulliad wedi gwneud llawer o wahaniaeth i fywydau pobl Cymru.
Roedd 31% y credu mai’r de ddwyrain oedd wedi gweld y manteision mwyaf gyda dim ond 4% yn nodi gogledd Cymru ac 1% yn nodi canolbarth Cymru.
Cafodd yr arolwg ei gomisiynu gan BBC Cymru. Fe wnaeth ICM Research gyfweld sampl ar hap o 1,004 o oedolion dros 18 mlwydd oed dros y ffôn rhwng 22 Mai a 1 Mehefin eleni.