Gareth Huntley
Mae’r heddlu ym Malaysia wedi gwadu bod dyn o Loegr fu farw ar ynys yn y wlad wedi bod yn ymladd gyda rhywun yn fuan cyn iddo fynd ar goll yn y jyngl.

Cafodd corff Gareth Huntley ei ganfod ddydd Mercher diwethaf  ar ôl iddo ddiflannu yn ystod taith i weld rhaeadr ar Ynys Tioman, oddi ar arfordir de ddwyreiniol y tir mawr.

Cafodd ei ddarganfod mewn pwll, ychydig lathenni o sied oedd yn berchen i’r cwmni yr oedd Gareth Huntley’n gwirfoddoli a nhw.

Roedd un adroddiad papur newydd yn awgrymu y gallai Gareth Huntley fod wedi cael ei lofruddio ac roedd honiad bod ei wddf wedi cael ei dorri.

Ond mae un o uwch swyddogion yr heddlu ar yr ynys wedi gwadu’r honiadau.  Dywedodd nad oedd yr archwiliad post-mortem wedi datgelu unrhyw anafiadau allanol.

Nid yw achos ei farwolaeth wedi ei gadarnhau hyd yn hyn.