Ysbyty Gwynedd ym Mangor
Bydd rhai llawdriniaethau mewn ysbyty yn y gogledd yn cael eu canslo heddiw ar ôl i’w system ffôn gael ei difrodi mewn storm dros y penwythnos.

Credir bod y difrod wedi ei wneud wedi i fellten daro mast yn ystod y storm ddydd Sadwrn. Roedd adroddiadau hefyd bod nyrs wedi cael ei tharo gan fellten yn ystod yr un storm.

Ar ei gyfrif Twitter, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y byddai rhai llawdriniaethau llai yn cael eu gohirio oherwydd y broblem ond na fyddai llawdriniaethau brys yn cael eu heffeithio.

Bydd apwyntiadau cleifion allanol hefyd yn mynd yn eu blaen heddiw ond dywed y bwrdd y dylai cleifion ddisgwyl rhywfaint o oedi oherwydd y problemau.