David Cameron
Fe fydd y Prif Weinidog yn teithio i Sweden heddiw ar gyfer trafodaethau gyda Changhellor yr Almaen Angela Merkel ac arweinwyr Ewropeaidd eraill ynglŷn â dyfodol yr Undeb Ewropeaidd.

Mae David Cameron yn parhau gyda’i ymdrech i atal Jean-Claude Juncker rhag dod yn llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, mae ’na “ymgeiswyr talentog” eraill ar gyfer y swydd ym Mrwsel.

Mae David Cameron yn gwrthwynebu penodi Jean-Claude  Juncker, cyn brif weinidog Lwcsembwrg, gan ddadlau nad yw’n gefnogol o’i fwriad i ddiwygio’r Undeb Ewropeaidd.