Maes awyr rhyngwladol Jinnah, Karachi, Pacistan
Mae 18 o bobl wedi cael eu lladd wedi i ddynion arfog oedd wedi gwisgo fel swyddogion yr heddlu ymosod ar faes awyr prysuraf Pacistan.

Mae’r Taliban ym Mhacistan wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau, gan ddweud eu bod yn dial am farwolaeth pennaeth y Taliban, Hakimullah Mehsud, fu farw mewn ymosodiad ym mis Tachwedd. Maen nhw wedi rhybuddio am ragor o ymosodiadau.

Fe wnaeth yr ymosodiad ar faes awyr rhyngwladol Jinnah yn ninas Karachi, bara am tua phum awr ond meddai swyddogion bod yr holl deithwyr wedi cael eu symud oddi yno.

Roedd tua 10 o wrthryfelwyr yn rhan o’r ymosodiad, yn ôl yr awdurdodau, ac mae’n debyg bod rhai ohonyn nhw wedi gwisgo fel swyddogion diogelwch a’u bod wedi taflu ffrwydron a thanio gynnau yn yr adeilad.

Dywed yr heddlu bod y sefyllfa bellach o dan reolaeth ac mae disgwyl i’r maes awyr ail-agor o fewn yr oriau nesaf.

Yn ne orllewin y wlad, mae hunan fomiwr wedi lladd 23 o bererinion Shiaidd oedd yn dychwelyd o Iran.