Nicole Reyes
Mae dynes o Gaerdydd a gafodd ei charcharu am ladd ei gŵr yn y Weriniaeth Ddominicaidd yn ôl adref heddiw.

Cafodd Nicole Reyes, 38, ei dedfrydu i 12 mlynedd o garchar ym mis Chwefror am ladd ei gŵr Jorge, 37, mewn damwain ffordd.

Ond fe lwyddodd ei theulu i gasglu £55,000 er mwyn ei rhyddhau ar fechnïaeth o’r carchar.

Fe arhosodd gyda theulu yn y Weriniaeth Ddominicaidd am dridiau tra bod trefniadau’n cael eu gwneud i’w hedfan yn ôl adref.

Roedd Nicole, o Rymni, wedi mynd i’r ynys ar wyliau ac yn ddiweddarach wedi dechrau swydd gyda chwmni teithio Thomas Cook lle gyfarfu a Jorge.

Cafodd ei chyhuddo o ladd ei gŵr yn fwriadol yn ei char SUV wrth iddo yrru beic modur wrth ochr ei char, ar ôl bod ar noson allan ym mis Gorffennaf 2012.

Mae Nicole Reyes wedi dadlau mai damwain drasig oedd y digwyddiad a’i bod wedi gwyro’r car er mwyn osgoi cerbyd arall oedd yn gyrru tuag ati.

Fe gyrhaeddodd yr heddlu’r safle a dweud wrth Nicole eu bod am ei chludo i’r ysbyty ond cafodd ei rhoi mewn carchar yn lle.

Roedd hi’n wynebu dedfryd o 30 mlynedd yn y carchar am lofruddiaeth, ond yn dilyn achos a barodd dim ond dwy awr a hanner ym mis Chwefror, cafodd ei charcharu am 12 mlynedd.

Ond fe glywodd ei theulu y gallai Nicole gael ei rhyddhau ar fechnïaeth petai nhw’n talu £55,000.

Fe lwyddodd ei rhieni i godi’r arian a chafodd Nicole Reyes ei rhyddhau o’r carchar bedair wythnos yn ôl.

Mae hi’n dal i fod ar fechnïaeth ond ar ôl hedfan nôl adref ddydd Sadwrn, mae Nicole a’i theulu yn gobeithio bod y mater bellach ar ben.

Mae hi bellach yn ôl adref gyda’i phlant Leah, 18, a Luke, 17 ac yn aros am wrandawiad apel newydd.