Llygredd awyr yn Llundain (llun: PA)
Mae llygredd yn yr awyr mewn trefi yn achosi peryglon i lanhawyr stryd, gweithwyr sbwriel a wardeiniaid parcio, yn ôl undeb y GMB.

Mae ymchwil gan yr undeb yn dangos lefelau ‘peryglus’ o nitrogen deuocsid mewn ardaloedd trefol ledled Prydain, gan gynnwys Cas-gwent yng Nghymru yn ogystal â dinasoedd mawr fel Llundain, Glasgow, Manceinion a Birmingham.

Dywed yr undeb y dylai cynghorau wneud mwy i ddarganfod yr ardaloedd a’r adegau o’r diwrnod y mae’r broblem waethaf a hysbysu pobl leol.

Meddai John McClean, swyddog cenedlaethol y GMB yng nghynhadledd flynyddol yr undeb yn Nottingham:

“Dylai aer glân fod yn hawl nid yn fraint.

“Rydym yn galw eto am i gerbydau sy’n peri llygredd mawr gael eu gwahardd o ganol dinasoedd, ac ar i awdurdodau lleol gymryd camau ar unwaith gerllaw ysgolion, ysbytai a meddygfeydd.

“Dylid newid amseroedd glanhau strydoedd a chasglu sbwriel er mwyn osgoi adegau pan mae llygredd awyr ar ei waethaf.”