Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion ar ôl i ddyn a dynes ifanc, 25 a 23 oed, gael eu lladd mewn gwrthdrawiad yn y Cymoedd fore ddoe.

Digwyddodd y gwrthdrawiad wrth i gar BMW 1 Series Convertible fynd oddi ar y ffordd ar yr A4903 yn Gilfach Goch tua 10.30am.

Mae camerâu cylch cyfyng yn dangos y car yn teithio drwy’r pentref ar hyd y Stryd Fawr a Cambrian Avenue cyn ymuno â’r A4093 tuag at Tonyrefail cyn iddo adael y ffordd.

Mae’r heddlu’n pwyso ar unrhyw bobl a oedd yn teithio mewn ceir eraill neu mewn bws ar y pryd i gysylltu ar unwaith â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru peryglus.