Mae un o brif noddwyr Cwpan y Byd yn pwyso am ymchwiliad trylwyr i honiadau o lygredd yn sgil cais llwyddiannus Qatar i gynnal y gystadleuaeth yn 2022.

Dywed y cwmni nwyddau trydanol Sony, un o chwech o fusnesau sy’n cael eu disgrifio fel ‘partneriaid’ i Fifa, fod yn rhaid i’r corff sy’n gyfrifol am lywodraethu’r gêm yn rhyngwladol, sicrhau ei fod yn cadw at “egwyddorion gonestrwydd a chwarae teg”.

Ar ôl torri’r newyddion yr wythnos ddiwethaf, mae’r Sunday Times heddiw’n cyhoeddi honiadau pellach am un o gyn-aelodau pwyllgor gwaith Fifa, Mohamed Bin Hammam, wedi talu aelodau’r panel dewis i bleidleisio dros Qatar.