Ysgrifennydd Addysg Lloegr, Michael Gove
Mae ymchwiliad gan yr adran addysg yn Llundain yn debygol o ddangos bod llywodraethwyr ysgol â statws academi yng nghanolbarth Lloegr wedi ei throi’n ysgol Fwslimaidd.

Mae academi Oldknow yn Birmingham yn un o 21 o ysgolion yn ardal Birmingham sy’n cael ei hymchwilio ynglŷn â honiadau o gynllwyn gan eithafwyr Islamaidd.

Yn ôl y Sunday Times, sydd wedi cael gafael yr adroddiad nad yw wedi cael ei gyhoeddi eto, mae’r Academi “yn arddel arferion ysgol grefyddol Islamaidd ac yn hyn  o beth nid yw’n hyrwyddo cydlyniant cymunedol”.

Roedd yr ysgol yn ardal Small Heath o’r ddinas wedi cael canmoliaeth uchel gan Ofsted yn 2013, ond mae ymchwiliad yr adran addysg yn dangos merched yn cael eu gosod i eistedd y tu ôl i fechgyn mewn dosbarthiadau, ynghyd â honiad fod un athro wedi bod yn arwain siantau gwrth-Gristnogol yn yr ysgol.

Mae adroddiadau hefyd am ddigwyddiadau Nadolig yn cael eu canslo, ac arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio at drip ysgol i Mecca – trip a oedd wedi ei gyfyngu i Fwslimiaid.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Addysg Lloegr, Michael Gove, wneud datganiad i Dŷ’r Cyffredin ar yr ymchwiliad yfory.