Mae cyn bennaeth byddin yr Aifft, Abdel-Fattah el-Sissi, wedi cael ei urddo’n arlywydd newydd y wlad.
Mae hyn lai na blwyddyn ar ôl iddo arwain y fyddin i gipio grym oddi ar arlywydd etholedig cyntaf yr Aifft, Mohammed Morsi.
Fe wnaeth Abdel-Fattah el-Sissi dyngu ei lw gerbron Goruchaf Lys Cyfansoddiadol y wlad, ac mae heddiw wedi cael ei gyhoeddi’n ddiwrnod o wyliau cenedlaethol.
Mae wedi cael ei urddo am dymor o bedair blynedd.