David Cameron ac Alex Salmond (lun: PA)
Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi pwyso eto am ddadl deledu gyda Phrif Weinidog Prydain, David Cameron, ar annibyniaeth i’r Alban.
Daeth ei alwad ddiweddaraf ar ôl i arolwg barn newydd awgrymu y gallai ymyrraeth gan wleidyddon o Lloegr wneud pleidlais o blaid annibyniaeth i’r Alban yn fwy tebygol.
Yn ôl yr arolwg gan YouGov, mae 43% o bobl Prydain yn credu y byddai ymyrraeth o’r fath yn hybu achos annibyniaeth, ac mae 31% yn credu y dylai gwleidyddion o Loegr gadw allan o’r ddadl.
Dywed Alex Salmond y byddai o blaid i bobl o’r tu allan gyfrannu at y ddadl.
“Dylai’r Prif Weinidog, er enghraifft, gymryd rhan yn y ddadl. Gadewch inni gael dadl rhwng dau Brif Weinidog. Gadewch iddo gymryd rhan o ddifrif, a gobeithio y bydd hynny’n helpu pobl i bleidleisio o blaid annibyniaeth.”
‘Synnu’ at sylwadau Obama
Dywedodd Alex Salmond hefyd ei fod yn synnu at sylwadau arlywydd America, Barack Obama, yr wythnos ddiwethaf pan ddywedodd fod arno eisiau i Brydain aros yn “gryf ac unedig”.
“Roedd hyn yn syndod oherwydd roedd arlywydd America wedi ei gwneud hi’n glir iawn eu bod nhw’n aros yn gwbl niwtral yn y refferendwm democrataidd sy’n digwydd yn yr Alban,” meddai.
“Ond wrth gwrs, mae David Cameron wedi bod yn erbyn ar bawb yn rhyngwladol i ddweud unrhyw beth a all ei helpu yn ei drafferthion ar hyn o bryd.
“Mae yn llygad ei le wrth fod yn bryderus – roedd yr arolwg diwethaf yn dangos Ie ar 46%.”