Yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Chris Grayling
Bydd hyd at 320 o droseddwyr ifanc rhwng 12 a 17 oed yn hanfon i ‘goleg diogel’ newydd yn Swydd Gaerlŷr.

Dywed yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling y bydd pwyslais y ganolfan newydd ar addysgu’r plant a phobl ifanc.

Bydd prifathro’n arwain tîm o addysgwyr proffesiynol a rheolwyr troseddwyr yn y ‘coleg’.

“Mae datblygu coleg diogel yn ddull arloesol o fynd i’r afael â chyfraddau aildroseddu pobl ifanc, gan roi lle canolog i addysg yn y ddalfa,” meddai Chris Grayling.

“Mae’n iawn y dylai troseddwyr ifanc wynebu cosb addas, gan gynnwys cadw yn y ddalfa am y troseddau mwyaf difrifol a pharhaus. Ond bydd y coleg diogel newydd yn gwbl wahanol i’r amgylchedd traddodiadol o farrau ar ffenestri.

“Bydd yn helpu yn ein brwydr i fynd i’r afael â gwraidd troseddu, a rhoi’r sgiliau a’r hunan ddisgyblaeth y mae ar droseddwyr ifanc eu hangen i gael gwaith neu hyfforddiant ar ôl cael eu rhyddhau.”

Mae disgwyl i ganolfan newydd Glen Parva agor yn 2017.