Y Prif Weinidog David Cameron (o wefan Rhif 10)
Bydd y Prif Weinidog David Cameron yn cyfarfod Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, a chyd-arweinwyr Ewropeaidd eraill, dros y dyddiau nesaf, wrth i’r dadlau barhau ynghylch prif swydd yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Prydain yn benderfynol o geisio rhwystro penodi Jean-Claude Juncker o Lwcsembwrg yn llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae Mr Juncker yn cael ei ystyried fel un sy’n cefnogi Ewrop ffederal ac sy’n gwrthwynebu diwygiadau i’r ffordd y mae’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei rhedeg.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague yn rhybuddio y byddai methu cael “y bobl iawn” i brif swyddi’r Undeb Ewropeaidd yn ei gwneud hi’n fwy anodd i drafod perthynas newydd rhwng Prydain a gweddill Ewrop.

Mae’n cydnabod fodd bynnag nad oedd gan Brydain feto ar y mater ac y bydd y penodiad yn cael ei benderfynu gan bleidlais fwyafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd.