Mae o leiaf 80 o bobl wedi boddi mewn llifogydd yn Afghanistan, a miloedd yn ddigartref ar ôl i’w tai gael eu dinistrio.

Parhau mae’r chwilio am bobl ar goll ar ôl i’r llifogydd daro talaith fynyddig Baghlan yng ngogledd y wlad ddydd Gwener.

Mae byddin y wlad yn ceisio helpu miloedd o bobl sydd mewn angen cysgod, bwyd, dwr a meddyginiaethau ar ôl y trychineb.