Jill Evans ASE
Dylai gwledydd Ewrop ganolbwyntio ar weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn lle ffraeo ymysg ei gilydd ynghylch swyddi’r Undeb Ewropeaidd.

Dyna yw barn yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans a gafodd ei hailethol dros Blaid Cymru o drwch blewyn bythefnos yn ôl.

Ei phryder yw fod y ffraeo ynghylch swyddi fel Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd yn tynnu sylw oddi wrth faterion pwysicach.

Mae hi’n galw am dargedau newydd uchelgeisiol a chyraeddadwy i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a fydd yn rhwymo gwledydd Ewrop.