Madeleine McCann
Mae’r heddlu’n debygol o holi amryw o bobl sydd o dan amheuaeth o fod yn gyfrifol am ddiflaniad y ferch fach Madeleine McCann yn Portiwgal saith mlynedd yn ôl.

Mae plismyn Prydeinig eisoes wedi bod yn archwilio darn o dir ar yr Algarve gerllaw’r lle y diflanodd Madeleini, ac maen nhw bellach wedi cael caniatâd i holi tri sydd o dan amheuaeth.

Y disgwyl yw y bydd heddlu Portiwgal yn holi rhagor o bobl dros yr wythnosau nesaf.

Roedd Madeleine yn dair oed pan ddiflannodd o’i gwyliau yn Praia da Luz ym mis Mai 2007.