Yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May (llun: PA)
Mynd o ddrwg i waeth mae’r ffrae chwerw rhwng yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May a’r Ysgrifennydd Addysg Michael Gove.

Bellach, mae ymgynghorydd arbennig Theresa May wedi ymddiswyddo a Michael Gove wedi gorfod ymddiheuro am ei ran yn yr helynt.

Mae’r ddau aelod blaenllaw o’r cabinet wedi bod yng ngyddfau ei gilydd ers iddi ddod i’r amlwg bod swyddogion y ddwy adran wedi bod yn briffio’r wasg yn erbyn ei gilydd.

Mae adroddiadau bod y Prif Weinidog David Cameron wedi cael ei gythruddo gan yr helynt, yn enwedig wrth i’r ffrae ddod i’r amlwg ar ddiwrnod Araith y Frenhines yr wythnos ddiwethaf.

Ar yr wyneb, mae’r ffrae rhwng y ddau weinidog yn seiliedig ar anghytundeb ynghylch sut i ddelio ag eithafiaeth Islamaidd mewn ysgolion.

Barn sylwebwyr gwleidyddol, fodd bynnag, yw mai achos y ffrae yw bod y ddau’n ymrafael yn erbyn ei gilydd mewn brwydr i olynu David Cameron fel arweinydd y Blaid Geidwadol ar ôl yr etholiad nesaf.