Mae gan Michael Gove 'gwestiynau i'w hateb' medd Llafur
Mae Llafur wedi galw am ofynion newydd wrth arolygu ysgolion yn Lloegr yn sgil honiadau fod eithafwyr Islamaidd yn ceisio dylanwadu ar addysg ysgolion yn Birmingham.
Mae llefarydd Llafur ar addysg, Tristram Hunt, wedi gofyn am esboniad gan Ysgrifennydd Addysg Lloegr, Michael Gove, i adroddiadau fod pryderon wedi cael eu codi ar y mater o fewn yr adran addysg yn ôl yn 2010.
Mae Llafur yn cyhuddo’r Ysgrifennydd Addysg, a’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May, o fethiannau difrifol. Mae Michael Gove a Theresa May wedi cael ffrae gyhoeddus wythnos yma ar ddelio gydag eithafiaeth Islamaidd, a nos Sadwrn daeth i’r amlwg fod Michael Gove wedi ymddiheuro i’r Prif Weinidog am y ffrae, a bod un o swyddogion Theresa May – Fiona Cunningham – wedi ymddiswyddo.
Llywodraeth yn ‘rhy bellennig’ wrth reoli ysgolion
Yn ôl Tristram Hunt mae’r llywodraeth wedi bod yn rhy bellennig wrth arolygu ysgolion yn Lloegr ac nad yw’r cwricwlwm wedi bod yn ddigon cytbwys.
Mae disgwyl i adroddiad gan Ofsted ar yr ysgolion yn Birmingham – sydd wedi cael eu disgrifio fel “ceffylau pren Caerdroea” – gael ei gyhoeddi Ddydd Llun.
Mae prifathro o Birmingham, Tim Boyes, wedi dweud ei fod wedi rhybuddio’r Adran Addysg yn 2010 am lywodraethwyr oedd yn ceisio gosod Mwslim yn bennaeth ar un o ysgolion y ddinas. Rhybuddiodd hefyd am lywodraethwyr “ymosodol” oedd yn ceisio dylanwadu ar bolisi addoli ysgolion.
Yn ôl Tristram Hunt, “Mae angen i ni wybod beth oedd e (Michael Gove) yn ei wybod a phryd roedd e’n ei wybod. Mae angen iddo ateb ein cwestiynau ni cyn y medrwn ni fynd â’r ddadl yma ymhellach.”
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Addysg San Steffan fod gofyn i bob ysgol “gynnig cwricwlwm eang a chytbwys” a bod arolygwyr Ofsted eisoes yn edrych ar “ddatblygiad cymdeithasol, diwylliannol a moesol disgyblion wrth asesu ysgolion.”