Huw Stephens
Mae newidiadau i amserlen Radio 1 yn golygu y bydd gan y Cymro Huw Stephens dair rhaglen fin nos bob wythnos o fis Medi ymlaen.
Bydd ei raglenni’n cael eu darlledu nos Lun, nos Fawrth a nos Fercher ac mae hynny’n cael ei ystyried yn ‘ddyrchafiad’ iddo.
Ar hyn o bryd, mae’n cyflwyno rhaglen awr ar nos Fercher, a rhaglen dair awr ar brynhawnau Sadwrn a Sul.
Cefndir
Fe fu Huw Stpehens yn gyflwynydd ar Radio 1 ers 2005, ac mae’n cyflwyno podlediadau rheolaidd ar wefan yr orsaf hefyd.
Yn sgil ei raglen ar Radio 1 a rhaglen ‘Bandit’ ar S4C, cafodd ei enwebu ddwywaith yn y gorffennol am wobr y cyflwynydd gorau yng ngwobrau Bafta Cymru.
Mae’n cyflwyno rhaglen ar Radio Cymru ar nos Lun hefyd ond dyw hi ddim yn glir eto a fydd y drefn newydd yn effeithio ar hynny.
Bowman a da Bank yn mynd
Yn ôl rhai, dyma’r newidiadau mwyaf yn hanes yr orsaf ac fe fydd cyflwynwyr poblogaidd fel Edith Bowman a Rob Da Bank yn colli eu rhaglenni.
Dywed penaethiaid Radio 1 eu bod nhw wedi gorfod gwneud “penderfyniadau anodd” er mwyn cystadlu â rhaglenni talent ar y teledu.
Ymhlith y cyflwynwyr eraill fydd yn gadael yr orsaf mae Nihal, Mike Davies, Jen Long ac Ally McCrae.