Mae disgwyl i weithwyr y gwasanaeth tân gynnal eu streic hiraf ers tair blynedd yn dilyn ffrae tros bensiynau.
Bydd aelodau undeb yr FBU yng Nghymru a Lloegr yn cynnal streic 24 awr ar Fehefin 12, ac unwaith eto ar Fehefin 21.
Mae’r undeb yn protestio yn erbyn newidiadau yng nghynllun pensiwn gweithwyr a’r penderfyniad i gynyddu’r oedran ymddeol.
Mae’r undeb wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o anwybyddu pryderon y gweithwyr ac o beidio addasu cynlluniau yn dilyn cyfarfod yr wythnos hon.
Dywed yr FBU fod unrhyw ymgynghoriad yn “ddibwynt”.
Eisoes, roedd gweithwyr tân yn cyfrannu 11% o’u cyflog tuag at eu pensiynau ac fe gododd y ffigwr ymhellach eleni.
Mae disgwyl iddo gynyddu eto’r flwyddyn nesaf.
Dywed yr undeb fod nifer cynyddol o weithwyr yn ystyried gadael eu cynlluniau pensiwn o ganlyniad i’r newidiadau.
Fel rhan o’r cynlluniau newydd, fe fydd gweithwyr sy’n gorfod ymddeol cyn 60 yn colli hanner eu pensiwn.
Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud bod yr undeb yn “amharu ar drafodaethau adeiladol” ac nad yw’n “ymrwymo i ddod o hyd i ateb” trwy gynnal streic.