Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi na fydd newid mewn cyfraddau llog am fis arall, wrth i’r gyfradd barhau yn 0.5%.

Nid oes newid wedi bod yn y gyfradd sail ers pum mlynedd wrth i Fanc Lloegr geisio adfer yr economi.

Fodd bynnag, mae Banc Lloegr wedi awgrymu fod yr economi yn nesáu at bwynt lle fydd yn rhaid codi’r gyfradd.

Daw’r cyhoeddiad wrth i gymdeithas adeiladu Nationwide gyhoeddi fod prisiau tai ym Mhrydain wedi cynyddu 11.1% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ogystal, fe gyhoeddwyd y mis diwethaf fod chwyddiant ym Mhrydain wedi codi am y tro cyntaf ers 10 mis ym mis Ebrill.