Vladimir Putin
Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain, David Cameron rybuddio arweinydd Rwsia, Vladimir Putin i beidio ymyrryd yn sefyllfa’r Wcráin.

Bydd y ddau arweinydd yn cwrdd ym Mharis cyn digwyddiad i goffáu glaniadau Normandi 70 o flynyddoedd yn ôl fory.

Cyhoeddodd arweinydd y G7 yn dilyn cyfarfod brys ym Mrwsel neithiwr eu bod nhw’n barod i gyflwyno sancsiynau economaidd pellach.

Roedd Rwsia eisoes wedi ei gwahardd o’r uwch gynhadledd oedd i fod i gael ei chynnal yn Sochi yn Rwsia, yn dilyn y ffrae tros y Crimea.

Mae David Cameron wedi galw ar wledydd y G7 i uno yn erbyn trais gan garfannau o bobol yn nwyrain yr Wcráin sy’n cefnogi bod yn rhan o Rwsia.

Dywedodd fod rhaid i Putin “ymgysylltu â llywodraeth yr Wcráin i ddod o hyd i ateb diplomyddol i’r argyfwng.”

Mae disgwyl i arweinwyr eraill gwledydd Ewrop ategu neges Cameron, ond mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama eisoes wedi dweud nad yw’n fodlon cwrdd â Putin.

Mae’r Unol Daleithiau wedi cyhoeddi cytundeb i roi cymorth milwrol i’r Wcráin.