Mae staff fydd yn gweithio yn y gorsafoedd pleidleisio yn Etholiadau Ewrop heddiw wedi cael rhybudd i atal pleidleiswyr rhag tynnu ‘hun-lun’ tra’n bwrw eu pleidlais.
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn rhybuddio y gallai tynnu lluniau y tu fewn i’r gorsafoedd pleidleisio ddatgelu sut mae unigolion wedi pleidleisio.
Gallai unrhyw un sy’n penderfynu anwybyddu’r cyngor gael eu herlyn.
Mae’r gorsafoedd pleidleisio bellach wedi agor y bore ma ar gyfer yr etholiad.
Mae’r weithred o dynnu hun-lun yn boblogaidd iawn erbyn hyn, ac mae nifer o ffigurau gwleidyddol blaenllaw, gan gynnwys David Cameron a Barack Obama yn enwog am amgyffred y duedd ddiweddaraf.
Yn ôl y gyfraith, mae’n drosedd i ddatgelu sut mae unigolyn wedi pleidleisio ac i ddatgelu’r rhif unigryw sy’n ymddangos ar bob papur pleidleisio.
Gallai unrhyw un sy’n cael ei ddarganfod yn tynnu hun-lun dderbyn dirwy o hyd at £5,000 neu gyfnod o chwe mis yn y carchar.
Mae’r gosb am rannu’r fath luniau’n gyhoeddus yn amrywio.
‘Denu pleidleiswyr ifainc’
Ond yn ôl y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol, mae’r cyfle i dynnu hun-lun yn debygol o ddenu mwy o bleidleiswyr ifanc i’r gorsafoedd pleidleisio.
“Dylai’r ffaith fod gennym ni gyd y cyfle i gael dweud ein dweud ynghylch pwy ddylai fod yn rhedeg y wlad fod yn destun dathlu.
“Ar adeg pan fo mwy a mwy o bobol yn troi i ffwrdd o wleidyddiaeth, dylid annog unrhyw beth sy’n creu ymdeimlad o achlysur ar ddiwrnod pleidleisio.”
Ychwanegodd fod preifatrwydd yr unigolyn yn hollbwysig, ond y gallai tynnu hun-lun fod yn elfen hwyliog o’r broses.
“Yn hytrach na chael ein gweld yn tynnu’r hwyl allan o wleidyddiaeth, dylen ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w wneud yn fwy deniadol i bleidleisio.”
Mae tynnu hun-lun yn ystod etholiadau’n gyfreithlon mewn gwledydd eraill ledled Ewrop.
Cymru
Mae 11 plaid yn mynd benben am y pedair sedd yng Nghymru sydd ar gael, o’r cyfanswm o 751 o seddi Senedd Ewrop.
Yn yr etholiadau diwethaf yn 2009, cafodd ASE o’r blaid Geidwadol, Llafur, Plaid Cymru, ac UKIP eu dewis.
Eleni, mae awgrymiadau y bydd Llafur ac UKIP yn ennill sedd, a bod Plaid Cymru, Llafur a’r Ceidwadwyr yn cystadlu am y ddwy sydd dros ben.
Mae cyfle i tua 380 miliwn o bobol o’r 28 gwladwriaeth sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd fwrw pleidlais cyn 10 o’r gloch heno.
Bydd y cyfrif yn dechrau nos Sul a’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach y noson honno.
Dyma restr o bleidiau ac ASE Cymru, yn y drefn y byddan nhw’n ymddangos ar y papur pleidleisio:
Britain First
1. Paul Anthony Golding
2. Anthony Clifford Golding
3. Christine Beryl Smith
4. Anne Marie Elstone
BNP
1. Mike Whitby
2. Laurence Reid
3. Jean Griffin
4. Gary Tumulty
Y Blaid Geidwadol
1. Kay Swinburne
2. Aled Wyn Davies
3. Dan Boucher
4. Richard Howard Hopkin
Y Blaid Werdd
1. Pippa Bartolotti
2. John Matthews
3. Chris Were
4. Rozz Cutler
Llafur
1. Derek Vaughan
2. Jayne Bryant
3. Alex Thomas
4. Christina Elizabeth Rees
Y Democratiaid Rhyddfrydol
1. Alec Dauncey
2. Robert Speht
3. Jackie Radford
4. Bruce Roberts
NO2EU
1. Robert David Griffiths
2. Claire Job
3. Steven Skelly
4. Laura Picand
Plaid Cymru
1. Jill Evans
2. Marc Jones
3. Steven Cornelius
4. Ioan Bellin
Y Blaid Lafur Sosialaidd
1. Andrew Jordan
2. Kathrine Jones
3. David Lloyd Jones
4. Liz Screen
The Socialist Party of Great Britain
1. Brian Johnson
2. Richard Cheney
3. Edward Blewitt
4. Howard Moss
UK Independence Party (UKIP)
1. Nathan Lee Gill
2. James Cole
3. Caroline Yvonne Jones
4. David John Rowlands