Coleg Ceredigion yn derbyn y wobr
Mae Coleg Ceredigion wedi derbyn gwobr Colegau Cymru 2014 am eu gwaith i hybu’r Gymraeg a Dwyieithrwydd ymysg eu myfyrwyr.

Mae’r wobr, sy’n cael ei noddi gan Nat West, yn cydnabod llwyddiannau eithriadol gan ddysgwyr, athrawon a cholegau ac yn ôl Dr John Graystone, Prif Weithredwr Colegau Cymru, “mae’n sicrhau bod yr arferion gorau yn cael eu cydnabod yn iawn”.

Bu i Goleg Ceredigion gyflwyno ystod eang o fentrau gan gynnwys Bŵtcamp Cymraeg yn Llangrannog ar gyfer staff a myfyrwyr, cynllun mentora myfyrwyr, rhaglen eang o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol a datblygu aps cymorth iaith.

Yn ogystal, bydd pob myfyriwr llawn amser yno yn astudio sgiliau iaith Gymraeg neu ymwybyddiaeth iaith Gymraeg a diwylliant fel rhan o’i gwrs.

Roedd blog a gafodd ei sgwennu gan Ymgynghorydd Iaith Gymraeg y coleg, Anna ap Robert, ar golwg360 yn gynharach eleni hefyd yn un o’r rhesymau pam wnaeth y coleg ennill y wobr.

Gweledigaeth uchelgeisiol

“Mae’r iaith Gymraeg a dwyieithrwydd wrth wraidd y coleg,” meddai  Pennaeth y coleg, Jacqui Weatherburn.

“Mae ein gweledigaeth yn uchelgeisiol ond credwn yn gryf mewn paratoi ein holl ddysgwyr i weithio a byw mewn cymuned ddwyieithog ac i’r perwyl hwnnw y bydd pob agwedd ar daith ddysgu’r myfyriwr yn cynnwys yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

“Mae’r coleg yn frwdfrydig wrth gyflawni ei genhadaeth gyffredinol ‘cyflawni potensial , newid bywydau’, ac mae meithrin dealltwriaeth o bwysigrwydd dwyieithrwydd a’r defnydd digymell, naturiol a chyfnewidiadwy o’r Gymraeg a’r Saesneg yn ein bywydau bob dydd yn ganolog i’r genhadaeth honno .”