Y Capten Thomas Clarke
Fe fydd angladd yr ail o ddau filwr o Gymru a gafodd eu lladd mewn damwain hofrennydd yn Afghanistan yn cael ei gynnal heddiw.
Bu farw’r Capten Thomas Clarke, oedd yn 30 oed ac yn dod o’r Bontfaen, wedi i hofrennydd roedd yn teithio ynddo ddisgyn yn nhalaith Kandahar ar 26 Ebrill.
Cafodd y milwr wrth gefn Oliver Thomas o Aberhonddu hefyd ei ladd, ynghyd a’r Swyddog Spencer Faulkner, y Corporal James Walters a’r Awyr Lefftenant Rakesh Chauhan.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys y Groes Sanctaidd yn y Bontfaen.
Cafodd angladd Oliver Thomas, 26, o Aberhonddu ei gynnal yr wythnos diwethaf.
Achos y ddamwain
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwadu honiadau gan y Taliban mai nhw oedd yn gyfrifol gan ddweud ei fod yn “ddamwain drasig.”
Mae ymchwiliad yn parhau i beth achosodd y ddamwain.