Timau achub yn cludo glowyr o'r safle
Mae’n ymddangos bod lefelau uchel o nwy gwenwynig wedi bod mewn pwll glo yn Nhwrci ddyddiau’n unig cyn i dân ladd 301 o weithwyr, yn ôl adroddiadau yn y wlad.
Mae papurau newydd yn Nhwrci yn honni nad oedd swyddogion y cwmni wedi gweithredu ar ôl i synwyryddion ddangos bod lefelau uchel o nwy yn y pwll dau ddiwrnod cyn y trychineb yn Soma.
Nid yw’r papurau newydd wedi cyhoeddi ffynhonnell yr adroddiadau ond mae rhai glowyr fu’n gweithio yn y pwll wedi honni bod swyddogion wedi anwybyddu’r lefelau uchel o nwy yn y pwll ac wedi methu a chymryd y camau priodol.
Cafodd dau o bobl eraill eu harestio heddiw yn dilyn y ffrwydrad a’r tân yn y pwll glo. Mae pump o bobl bellach wedi’u harestio ac yn wynebu cyhuddiadau o achosi marwolaeth trwy esgeulustod.
Bu farw’r rhan fwyaf o ganlyniad i nwyon gwenwynig gafodd eu rhyddhau yn y tân.