Alun Ffred Jones
Mae angen diffiniad clir o reoli tir yn gynaliadwy er mwyn gwarchod yr amgylchedd naturiol, y bobol a’r busnesau sy’n ennill eu bywoliaeth ohono.
Dyna farn Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad sy’n credu y bydd cytuno ar ddiffiniad cenedlaethol a’i ymgorffori yn dod ag eglurder i reolwyr tir.
Daeth y pwyllgor i’r casgliad bod rhaid gwneud mwy i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf o ran data ac arloesedd – er mwyn cau’r bwlch gwybodaeth rhwng y rhai sy’n datblygu ymchwil a thechnegau newydd a’r rhai sy’n gweithio yn y sector.
Yn ogystal, rhaid i reolwyr tir gael yr offer a’r wybodaeth sydd ei angen er mwyn iddyn nhw gyflawni mewn modd sy’n gweddu eu hamgylchiadau penodol.
Angenrheidiol
Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, “Roedd dod o hyd i ddiffiniad o reoli tir yn gynaliadwy yn anodd iawn yn ein hymchwiliad, ond cytunodd pawb ei bod yn angenrheidiol er mwyn rhoi sylfaen gadarn i reolwyr tir o ran eu gwaith.
“Nid oedd yn anodd gweld y nifer o enghreifftiau gwych yng Nghymru lle mae’r cydbwysedd bregus rhwng cadwraeth a menter fasnachol yn cael ei drin â chydymdeimlad.
“Aeth ein hymchwiliad i ysguboriau, ceginau ffermdai, cefn Land Rovers a labordai ymchwil a gwelsom drosom ein hunain y gwaith caled ac arloesol sy’n cael ei wneud ar gyfer y sector amgylcheddol ac amaethyddol.
“Ond credwn fod bwlch gwybodaeth rhwng y rhai sy’n gweithio ar lawr gwlad a’r datblygiadau diweddaraf o ran gwybodaeth ac arloesedd yn y canolfannau ymchwil.”
Argymhellion
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 14 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
– Bod Llywodraeth Cymru yn coethi ei diffiniad o ‘reoli cynaliadwy’ i ystyried ein hegwyddorion allweddol.
– Bod Llywodraeth Cymru yn archwilio ffyrdd y gellir cynllunio cynlluniau cyfredol, fel Glastir, fel eu bod yn rhoi grym i dirfeddianwyr wneud penderfyniadau am sut i reoli tir yn gynaliadwy ar lawr gwlad; a
– Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y Cynllun Datblygu Gwledig a’r cynllun Glastir diwygiedig yn cael eu defnyddio i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n well o ganolfannau ymchwil i reolwyr tir ar lawr gwlad ac i gefnogi a hwyluso trosglwyddo gwybodaeth rhwng rheolwyr tir.