Mae cwmni BT yn bwriadu creu 190 o swyddi i beirianwyr yng Nghymru fel rhan o gynllun i ehangu’r gwasanaeth band eang ar draws y wlad.
Bydd y cwmni yn chwilio am bobol i weithio mewn ardaloedd fel Bangor, Wrecsam, Caerfyrddin, Machynlleth, Llanandras, Y Drenewydd, Brynbuga, Caernarfon, Llanberis, Llanwnda, Pwllheli, Bethesda, Abergwaun a Hwlffordd.
Yn ôl llefarydd ar ran y cwmni, bydd y peirianwyr yn helpu i wella’r gwasanaeth i’r cwsmer ac i ddod a gwasanaeth band eang cyflym i fwy o gymunedau. Bydd yn gwneud y gwasanaeth 15 gwaith yn gyflymach nag ydi o ar hyn o bryd.
Mae’n rhan o gynllun ehangach i recriwtio 1,600 o beirianwyr ym Mhrydain, ac mae BT yn gobeithio recriwtio mwy o ferched a chyn-filwyr i geisio am y gwaith.
‘Disgwyliadau yn codi’
Yn ôl Ann Beynon, cyfarwyddwr BT yng Nghymru: “Mae BT yn arwain yr adfywiad economaidd yng Nghymru, gan ein bod ni’n un o’r buddsoddwyr mwyaf.
“Wrth i fwy a mwy o bobol ddod i ddibynnu ar y we, mae eu disgwyliadau hefyd yn codi.
“Nid yn unig yr ydym yn adeiladu band eang hynod o gyflym, sy’n rhoi hwb i gartrefi a busnesau yng Nghymru, rydym hefyd yn creu swyddi yn lleol gyda lefelau sgil uchel.
“Drwy weithio gydag ein partneriaid yn y sector cyhoeddus rydym yn benderfynol o sicrhau fod Cymru yn y safle gorau posib i fanteisio ar y chwyldro sy’n digwydd ym mand eang.”