Lesley Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru yn rhwystro elusennau rhag gwneud eu gwaith oherwydd oedi gyda chyllid, yn ôl aelod o’r Ceidwadwyr Cymreig.
Daw’r cyhuddiadau yn dilyn adroddiadau fod yr elusen Family Fund, a helpodd 700 o deuluoedd tlawd gyda phlant difrifol wael neu anabl yng Nghymru’r llynedd, wedi methu rhoi grantiau i deuluoedd oherwydd oedi ym mhroses gyllido’r Llywodraeth.
Yn ogystal, meddai’r Ceidwadwyr, bu’n rhaid i Relate Cymru, y cwmni sy’n rhoi cyngor ar berthynas, gwtogi ar nifer y bobol sy’n dod i’w gweld oherwydd diffyg grantiau.
Mae’r Aelod Cynulliad Mark Isherwood yn galw ar y Llywodraeth i greu proses gyllido “gyson” er mwyn gwarchod swyddi a chynnal prosiectau allweddol yn y trydydd sector yng Nghymru.
Dim cefnogaeth o Gymru
“Mae Family Fund wedi derbyn arian gan lywodraethau’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ond dydi hi ddal ddim wedi derbyn cefnogaeth gan Gymru,” meddai Mark Isherwood yn y Senedd.
“Mae hyn er bod 550 o geisiadau wedi dod gan deuluoedd yng Nghymru hyd yn hyn, a’u bod nhw wedi cefnogi 700 o deuluoedd y llynedd.”
“Mewn cyd-destun, mae Relate Cymru yn dweud dod newidiadau i gyllid am olygu eu bod yn colli 70% o’r grantiau gan awdurdodau lleol – o’i gymharu hefo toriadau o 26% yn Lloegr.
Toriadau
Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog Busnes Lesley Griffiths fod toriadau mawr i gyllid Llywodraeth Cymru wedi effeithio ar yr arian sydd ar gael i’w roi i sefydliadau’r trydydd sector.
Ond fe wnaeth Mark Isherwood gyhuddo’r gweinidog o “osgoi cwestiwn anodd am ei methiannau ei hun drwy feio rhywun arall”.
Mae golwg360 wedi gofyn i’r Llywodraeth am ymateb llawnach.