Undeb PCS
Mae gweithwyr y Swyddfa Gofrestru Tir yn Abertawe yn streicio heddiw a fory yn erbyn cynlluniau i breifateiddio’r asiantaeth.
Fe fydd y streic gan aelodau undeb y PCS yn effeithio ar 14 o swyddfeydd trwy Gymru a Lloegr.
Eisoes, dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth Prydain, Michael Fallon ei fod yn ystyried ymatebion i ymgynghoriad ar ddyfodol yr asiantaeth.
Ond roedd hi’n ymddangos yr wythnos diwethaf, yn ôl adroddiadau’r wasg, fod y penderfyniad i breifateiddio’r asiantaeth wedi’i wneud cyn diwedd yr ymgynghoriad.
Mae undeb y PCS yn gobeithio dangos i’r diwydiant ac i gyfreithwyr nad ydyn nhw’n fodlon derbyn y cynlluniau arfaethedig.
Mae’r Swyddfa Gofrestru Tir wedi gwneud elw bedair blynedd ar bymtheg o’r ugain mlynedd diwethaf ac mae’n ymddangos bod ei chwsmeriaid yn fodlon ar y gwasanaeth bob blwyddyn.
Mae’r PCS wedi dweud bod cadw’r asiantaeth yn gyhoeddus yn hanfodol ar gyfer ei dyfodol, ac mae’n dweud y gallai’r Swyddfa chwarae rhan hanfodol yn y broses o ddod â’r argyfwng tai i ben.
Un o’i argymhellion yw creu cofrestr o landlordiaid.
‘Gwrthwynebiad cryf’
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y PCS, Mark Serwotka: “Er mwyn osgoi’r cyhuddiad fod ei ymgynghoriad yn dwyll i’w helpu i wthio preifateiddio yn ei flaen, rhaid i’r llywodraeth ei ddiddymu a dechrau eto gydag opsiwn go iawn er mwyn i’r Swyddfa Gofrestru Tir aros yn y sector cyhoeddus.
“Mae yna wrthwynebiad cryf i’r cynllun hwn o du staff, cyfreithwyr ac arbenigwyr eiddo, sy’n cydnabod yr angen i gadw annibyniaeth yr hyn sy’n wasanaeth cyhoeddus llwyddiannus a phoblogaidd.”