Timau achub ger y pwll yn Nhwrci
Mae timau achub yn ceisio cyrraedd mwy na 200 o lowyr sy’n gaeth o dan ddaear ar ôl ffrwydrad a than mewn pwll glo yng ngorllewin Twrci, sydd wedi lladd o leiaf 201 i weithwyr.

Mae’n un o’r trychinebau glofaol gwaethaf yn hanes Twrci. Dywedodd y gweinidog ynni Taner Yildiz bod 787 o bobl yn y  pwll yn Soma pan ddigwyddodd y ddamwain. Mae 363 wedi cael eu hachub hyd yn hyn.

Cafodd o leiaf 80 o lowyr eu hanafu, ac mae pedwar mewn cyflwr difrifol.

Mae 400 o bobl yn helpu gyda’r ymdrech i achub y glowyr.

Fe ddigwyddodd y ddamwain wrth i’r gweithwyr baratoi i newid shifft gan olygu bod mwy o lowyr yn y pwll nag arfer.

Dywedodd Taner Yildiz bod y marwolaethau wedi’u hachosi o ganlyniad i wenwyn carbon monocsid ac mae’n bryderus y gallai nifer y meirw godi’n sylweddol.

Bu’n rhaid oedi cyn dechrau’r ymgyrch i achub y glowyr gan fod nwy yn dal i fod yn y pwll.

Mae teuluoedd rhai o’r glowyr wedi ymgasglu wrth ymyl y pwll er mwyn aros am newyddion.

Mae’r Prif Weinidog Recep Tayyip Erdogan hefyd wedi gohirio ymweliad ag Albania heddiw er mwyn ymweld â Soma.

Dywedodd perchnogion y pwll SOMA Komur Isletmeleri bod y ddamwain wedi digwydd er gwaetha mesurau diogelwch llym, a’u bod wedi lansio ymchwiliad. Mae’n debyg mai nam trydanol oedd ar fai.

Mae damweiniau glofaol yn Nhwrci yn gyffredin, oherwydd amodau diogelwch gwael.

Ym 1992 bu farw 263 o lowyr mewn ffrwydrad  ger porthladd Zonguldak.